Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
Rhianta Caerdydd
Cymorth Cynnar

Ffurflen Atgyfeirio Cymorth Cynnar

Beth yw manteision cofrestru gyda'r Mynegai?

Drwy gofrestru gyda'r Mynegai byddwch yn derbyn gwybodaeth reolaidd am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol a'u teuluoedd. Bydd cofrestru hefyd yn rhoi’r cyfle i chi i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau newydd yng Nghaerdydd.

Datganiad

Drwy lenwi'r ffurflen gofrestru hon rydych yn rhoi eich caniatâd i'ch data personol gael ei ddefnyddio i'ch ychwanegu at y Mynegai.

Bydd gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chymorth yn cael ei hanfon atoch drwy'r cyfeiriad e-bost a roddir gennych ar y ffurflen gofrestru hon.

Byddwn yn prosesu eich data anabledd er mwyn deall pa ddigwyddiadau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael i'r rhai sydd wedi cofrestru ar y Mynegai.

Byddwn yn prosesu eich ethnigrwydd er mwyn alinio â’n cyd-wasanaethau cyngor, ac i gefnogi'r gwaith o gynllunio'r Mynegai yn y dyfodol. Byddwn yn casglu'r wybodaeth hon gyda'ch caniatâd, ac nid oes rhaid i chi ei rhoi.

Mae'r Mynegai yn rhoi cymorth i bobl ifanc 0-25 oed. Pan fyddwch chi/eich plentyn yn troi'n 25 bydd eich data/ei ddata personol yn cael ei dynnu o'r Mynegai oni bai eich bod wedi tynnu eich caniatâd yn ôl cyn hynny. Nodir oed 25, am ein bod yn dymuno codi ein terfyn oedran uchaf i helpu i gefnogi'r sawl sydd yn y cyfnod pontio 18-25 hefyd.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â YMynegai@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio'r Tîm Porth Teuluoedd ar 03000 133 133. Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, byddwn yn tynnu eich data personol oddi ar y Mynegai ac ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth gennym mwyach.

Bydd y data personol a roddwch ar y ffurflen gofrestru hon yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol.

Dechreuwch y cais