Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023-24 - Ffurflen Gais

DIBEN Y RHYDDHAD

Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gael i fusnesau cymwys sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Bydd busnesau cymwys yn cael gostyngiad o 75% yn eu rhwymedigaeth net ar gyfer ardrethi annomestig yn 2023-24. Ni ddylai uchafswm gwerth ariannol y rhyddhad ardrethi a ganiateir, ar draws pob eiddo yng Nghymru sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes, fod yn fwy na £110,000.
Bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu fel cymhorthdal ar ffurf Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA). Rhaid i’r un busnes beidio â hawlio cyfanswm o fwy na £315,000 o MFA dros dair blynedd (gan gynnwys 2023-24). Nid oedd fersiynau blaenorol o’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru yn cael eu darparu fel cymhorthdal ac ni ddylid eu cyfrif tuag at y terfyn MFA. Felly, rhaid i werth gros y rhyddhad a hawlir gan yr un busnes beidio â bod yn fwy na £110,000 yng Nghymru ar gyfer 2023-24 (i gydymffurfio â thelerau’r cynllun hwn) neu £315,000 o 2021-22 i 2023-24, gan gynnwys y blynyddoedd hynny (i gydymffurfio â gofynion rheoli cymorthdaliadau). Rhaid i fusnesau sy’n hawlio’r rhyddhad ddatgan nad yw’r swm a hawlir yn mynd y tu hwnt i’r terfynau hynny, cyn y gellir dyfarnu’r rhyddhad.
Mae angen i fusnesau ddatgan eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodwyd yn y ddogfen ganllawiau hon a nodi ar gyfer pa eiddo y maent yn dymuno hawlio rhyddhad. Os yw 75% o’r atebolrwydd ar draws eiddo’r busnes yn fwy na £110,000 neu’r terfyn MFA, bydd angen i fusnesau nodi ar gyfer pa eiddo yr hoffent hawlio’r rhyddhad. Gall busnesau ddewis ar gyfer pa eiddo y byddant yn ceisio rhyddhad. Pan fydd cyfanswm y rhyddhad a ganiateir ar gyfer eiddo eraill yn agos i’r uchafswm o £110,000 neu’r terfyn MFA, gellir caniatáu swm o ryddhad sy’n llai na 75% ar gyfer eiddo cymwys arall.
Rhaid cyflwyno ffurflen gais i bob awdurdod lleol y mae’r busnes yn gwneud cais am ryddhad ar gyfer eiddo yn ei ardal. Rhaid i bob ffurflen gynnwys manylion pob eiddo y gwneir cais am ryddhad ar ei gyfer ar draws Cymru. Os na wneir cais, ni ellir rhoi rhyddhad.
Bydd unrhyw ymgais gan fusnes i wneud cais bwriadol i hawlio mwy na £110,000 o ryddhad yn ei roi mewn perygl o golli unrhyw ryddhad a roddwyd o dan y cynllun i’r busnes hwnnw gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd gwybodaeth ar ryddhad a hawliwyd o dan y cynllun yn cael ei rhannu gydag awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru, gan eu galluogi i adnabod unrhyw hawliau sy’n gyfanswm o fwy na £110,000 a gweithredu ar y rhain os oes angen.
Ni fydd Llywodraeth Cymru a [enw’r awdurdod lleol] yn goddef unrhyw ymgais gan fusnes i ffugio’u cofnodion na rhoi tystiolaeth ffug i gael y gostyngiad hwn. Mae hyn yn cynnwys hawlio cymorth sy’n fwy na’r uchafswm o £110,000 neu’r trothwy eithrio. Gall busnes sy’n gwneud cais ffug am unrhyw ryddhad, neu sy’n rhoi gwybodaeth ffug neu’n gwneud sylwadau ffug er mwyn cael rhyddhad, fod yn euog o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006 a gall wynebu camau cyfreithiol, yn ogystal â cholli unrhyw Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer eu holl eiddo o dan gynllun 2023-24.