Cronfa Ddata o Weithgareddau Hamdden Cyngor Caerdydd - Tudalen Gymorth

Chwilio am Weithgareddau

Defnyddio’r Wefan

I gael rhagor o fanylion am unrhyw eitem, cliciwch ar y llythyren "i". Mae botymau hefyd i gael rhagor o wybodaeth am weithgaredd, a gwybodaeth am leoliad y gweithgaredd. Os nad ydych chi’n siŵr ymhle mae’r lleoliad, mae dolen i wefan multimap yn ogystal. Mae botwm i fynd yn ôl i’r dudalen flaenorol.

Mae’r rhestri o weithgareddau wedi'u cyfyngu i 25 ar bob tudalen. Os bydd mwy na 25 ohonynt, bydd modd clicio ar y dolenni i’r tudalennau eraill.

Fe allwch chi ddewis trefnu’r colofnau yn y rhestr o weithgareddau os yw hynny’n bosibl. Bydd y cefndir oren yn dynodi’r golofn sydd wedi’i threfnu ddiwethaf.

 

Fe allwch chi ddewis ffyrdd gwahanol o chwilio am wybodaeth drwy glicio ar un o’r gwahanol fotymau ar ochr chwith y sgrin. Mae’r gwahanol ffyrdd o chwilio yn eich galluogi i ddewis gweithgareddau os oes gennych rywbeth penodol mewn golwg, neu i gael rhagor o wybodaeth yn unig.

Mae’r dudalen Chwilio yn caniatáu i chi chwilio drwy feysydd gwahanol. Y rhain yw teitl y gweithgaredd, lleoliad y gweithgaredd, y diwrnod, y cynnwys a’r hyfforddwr. Gellir cynnwys hanner geiriau hefyd. E.e. byddai teipio “nof maw llan” yn dod o hyd i bob gweithgaredd nofio yng Nghanolfan Hamdden Llanisien ar ddydd Mawrth.

Mae’r dudalen Pori yn rhoi'r holl weithgareddau o dan bedwar pennawd gwahanol. Ardal y Gweithgaredd, Lleoliad, Oedran a Diwrnod. Mae hyn yn golygu bod sawl ffordd o ddod o hyd i wybodaeth am yr holl weithgareddau hamdden.

Mae’r dudalen A-Y yn rhestru enwau'r holl weithgareddau yn nhrefn y wyddor.